
Beth yw Cyfrif Mawr Adar Ffermdir GWCT?
Mae Cyfrif Mawr Adar Ffermdir yn ymgyrch bwysig sy’n cofnodi’r effaith y mae cynlluniau cadwraethol yn ei gael ar adar ffermdir . Rydym angen eich help i warchod rhywogaethau o adar sy’n byw ar dir fferm a sicrhau eu bod yn goroesi. Yn syml, treuliwch 30 munud yn cofnodi’r adar a welwch ar eich fferm…
Er mwyn cymryd rhan…dilynwch y 2 gam syml hyn…
STEP 1 – Taflen Gofnodi
Lawrlwytho’r Daflen Gofnodi

STEP 2 – Cyfri’r adar!
Pryd?
7 – 23 Chwefror 2025
Ble?
Ar eich fferm!
Gallwch ddewis eich lleoliad, byddai rhywle agored sy’n eich galluogi i weld tua 2 hectar o’r fferm yn ddelfrydol ar gyfer gwneud y cyfrif.
TOP TIP – Er mwyn gweld y nifer fwyaf o adar, rydym yn argymell y dylai’r safle gynnwys neu yn agos at ardal o hadau cymysg gwyllt neu gêm, neu rhywle ble mae bwydo ychwanegol yn cael ei gynnig.
Sut?
Lawrlwytho’r daflen gofnodi a mynd allan i gyfri!
Pa mor hir y bydd yn ei gymryd?
Bydd gofyn i chi nodi’r mathau o gynefinoedd a chnydau sydd ar y safle ac yn agos i’r safle, er mwyn darparu rhagor o wybodaeth i ni ynglŷn â lleoliad y cyfrif
Treuliwch 30 munud yn cofnodi’r rhywogaethau o adar yr ydych cyn ei gweld mewn un rhan benodol o’r fferm.
Pa amser o’r dydd sydd orau?
Yn ddelfrydol, dylid cyfri yn ystod golau cyntaf y dydd, gan mai dyma pryd mae’r adar fwyaf prysur. Fodd bynnag, beth sy’n bwysig ydi’ch bod yn cymryd rhan, felly dylai’r amser eich siwtio chi.
STEP 3 – Cyflwyno eich canlyniadau ar-lein
Gallwch gyflwyno eich canlyniadau yn sydyn a rhwydd ar-lein unwaith y bydd y cyfrif wedi dechrau o’r 7 Chwefror 2025.
Unwaith eto eleni, rydym yn defnyddio NotaZone llwyfan arolwg sydd wedi ei ddatblygu gan Agrantec i gasglu a chyfri’r canlyniadau. Mae’r system yn ddiogel a bydd eich manylion yn cael eu cadw yn gyfrinachol.
Os hoffech chi bostio eich canlyniadau i ni, lawrlwythwch y ffurflen yma a’i bostio gyda’r canlyniadau i:
BFBC
Game & Wildlife Conservation Trust
Burgate Manor
Fordingbridge
SP6 1EF
Adnoddau Plant

Dogfennau Defnyddiol
BFBC Count Sheet (Saesneg)
BFBC Count Sheet | Taflen Gofnodi (Dwyieithog Saesneg/Cymraeg)
BFBC Information Sheet (Saesneg)
BFBC Information Sheet | Taflen Wybodaeth (Cymraeg)
FREE – BFBC Farmland Bird ID Guide (Saesneg)
FREE – BFBC spotters guide (Saesneg)