Rheoli porfeydd er budd da byw a natur
Mae Fferm Castle Hill ger Aberystwyth yn gartref i deulu’r Loxdale (Peter, Megan, Patrick a Susan), ac maent yn rheoli cymysg o borfeydd ar dir uchel ac isel ar gyfer gwartheg cig eidion a defaid. Mae’r ffilm yma yn manylu eu taith tuag at sicrhau eu bod yn rheoli eu tir er mwyn gwella iechyd pridd er budd da byw a bywyd gwyllt.
Pam mai’r ffermwyr yw dyfodol yr amgylchedd yng Nghymru
Ffermio’r ucheldir, cadwraeth bywyd gwyllt a charbon a gaiff ei drafod â’r ffermwr defaid, Gareth Wyn Jones.
Sut y gall ffermio âr gynhyrchiol a bywyd gwyllt ffynniannus, weithio law yn law
Mae Richard a Lyn Anthony yn rhedeg busnes contractio a ffermio âr ym Morgannwg. Gyda Phennaeth Addysg a Chynghorydd i Gymru Matt Goodall, maent yn arddangos yr ymarferion ffermio arloesol y maent y neu defnyddio i wella eu cynnyrch, yn ychwanegol i’w gwaith cadwraeth sy’n hybu pryfed, adar ac ysgyfarnogod i ffynnu.
Richard a Lyn Anthony
Disgrifir John Warburton-Lee ei fferm 500 erw, Gilar, yng Ngogledd Orllewin, fel “cael pob duw amaethyddol yn ein herbyn. Yn y gaeaf chwytha’r gwynt yn wyllt yma!”
Ffermio adfywiol ger lan yr afon
Gyda defaid, geifr a ieir, mae Sam Kenyon yn ffermio ar lannau yr Afon Elwy yn Sir Ddinbych. Mae Sam yn trafod â Rheolwr Prosiectau Lee Oliver sut mae’n llywio’r gwaith o ffermio’r tir i gyd fynd â natur yn lle yn ei erbyn gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau.
Cadwraeth ar waith yng Nghefn Amwlch
Dafydd Wynne Finch, Perchennog y Fferm a Carwyn, Rheolwr y Fferm yn egluro’u siwrne gadwraethol o’r ochr ymarferol yn fferm Cefn Amwlch, Pen Llŷn. Fferm laeth sydd â system bori gylchol. Caiff gwartheg croes Jersey a’u godro yma, gan ganolbwyntio ar gynnyrch solid a wnaeth o lefrith – menyn, braster a phrotein ar gyfer gwneud caws. Bydd stori Cefn Amlwch yn cael ei gynnwys yng nghymuned Cymuned Ffermio GWCT Cymru – a gaiff ei lansio yn y Sioe Frenhinol – rhagor o wybodaeth i ddilyn.