Disgrifir John Warburton-Lee ei fferm 500 erw, Gilar, yng Ngogledd Orllewin, fel “cael pob duw amaethyddol yn ein herbyn. Yn y gaeaf chwytha’r gwynt yn wyllt yma!” Mae’r tir fferm garw sy’n hwynebu’r gogledd yn amrywio o 900 troedfedd i 1,700, ond ers yr amodau llym, mae’n benderfynol o ddangos ei fod yn bosib gwrthdroi’r dirywiad mewn adar ar y fferm. Drwy weithio â GWCT Cymru a Kings Seeds, mae John Warburton Lee a’i bartner ffermio Trystan Edwards wedi ymrwymo i brosiect arddangos tair blynedd o hyd, a ariennir gan Bartneriaeth Arloesi Ewrop, er mwyn sefydlu cymysgeddau ar gyfer cnwd adar gwyllt, a rhoi bwyd allan yn ystod y cyfnod llwglyd. Dywedodd: “Mae bwydo ychwanegol gyda’r bwcedi yn hawdd, ond bydd y cnydau gorchudd yn fwy heriol. Fel nifer o ffermydd da byw, dydyn ni ddim ag offer i hau hadau bellach, felly bydd yn rhaid i ni dalu contractwr.”
Felly beth hoffai John ei weld yn y genhedlaeth newydd o gynlluniau amaeth-amgylchedd ôl-Brexit? Mae’n argyhoeddi os yw’r llywodraeth eisiau cyrraedd eu targedau bioamrywiaeth, mae’n rhaid iddynt ymgysylltu, ysbrydoli a chymell y gymuned ffermio. Dywedodd: “Credaf fod angen mawr am newid yn y dull gweithredu. Mae ffermio’n anodd ac mae llawer o ffermydd yn gweithredu ychydig yn well na lefel cynhaliaeth. Mae ffermwyr Cymreig yn gofalu am eu tir a’u ffordd o fyw. Dydyn nhw ddim yn dinoethi’r dirwedd yn fwriadol, a dylid eu gwerthfawrogi fel partneriaid. Mae’n rhaid i gynlluniau newydd fod yn hawdd i’w gweithredu ac mae ffermwyr angen mynediad i ganllawiau arbenigol. GWCT Cymru yw un o’r ychydig sefydliadau sy’n gallu darparu hynny ac mae croeso mawr i’r arbenigedd hyn.”
Mae’r cynllun peilot yn fferm Gilar, fferm fynydd yng Ngogledd Orllewin Cymru, wedi dangos gwir botensial yn barod. Mae’r cyfrifiadau eleni’n dangos, yn y flwyddyn gyntaf, bod tunnell o borthiant atodol a chwe erw o gnydau gorchudd wedi arwain at chwe gwaith yn fwy yn nifer yr adar ffermdir. Dywedodd John: “Credaf y byddai’n wych petai gynlluniau syml fel hyn yn galluogi ffermwyr i gyflawni buddion amgylcheddol law yn llaw a chynhyrchu cig. Mae gennym dystiolaeth ei fod yn gweithio a byddwn yn parhau i’w fonitro. Rwy’n obeithiol y gallwn ddangos i’r Llywodraeth a ffermwyr ei fod yn weithred hynod o syml ac effeithiol iawn. Petai nifer uchel yn cymryd rhan, credaf y gallai fod yn help mawr i wrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth yng Nghymru.”