Skip to content

Siarter

Mae’r siarter yma yn amlinellu amcanion y gymuned ffermio, a’n cyflwyno sut y gall GWCT helpu ffermwyr Cymru.

Amcanion

  • Ffermio proffidiol ochr yn ochr â chadwraeth weithiol.
  • Platfform i ffermwyr Cymru ddangos eu gwaith gwych.
  •  Porth i GWCT rannu gwyddoniaeth i helpu ffermwyr.
  •  Yn dangos i Lywodraeth Cymru y gwaith gwych y mae ffermwyr yn ei wneud.
  • Ymgysylltu â’r gymuned wledig gyfan.

Amcanion a rennir gan y Gymuned Ffermio

  • Credwn mai ffermwyr yw’r ateb i liniaru newid yn yr hinsawdd a chynyddu bioamrywiaeth.
  • Cynyddu bywyd gwyllt ar ffermydd ochr yn ochr â ffermio proffidiol.
  • Dull stôl tair coes GWCT: Cynefinoedd, bwyd a rheoli ysglyfaethu.
  • Dangos i bobl y gwaith rydyn ni’n ei wneud i gynyddu bioamrywiaeth.
  • Credu mewn dull cydweithredol o ddarparu adferiad natur ar raddfa dirwedd.

Yr hyn gall GWCT Cymru ei gynnig i ffermwyr

  • Cefnogi cyfnewid gwybodaeth rhyngom ni a ffermwyr.
  • Ceisio am gyllid ar gyfer dulliau tirwedd cydweithredol fel clystyrau ffermwyr.
  • Gweithio gyda ffermwyr i ddangos ymagwedd addasol tuag at gadwraeth.
  • Dylanwadu ar lunwyr polisi drwy wyddoniaeth ymarferol a gweithio gyda ffermwyr.
  • Pwysleisio mai ffermio proffidiol sy’n dod gyntaf i alluogi cynnydd mewn bioamrywiaeth
  • Darparu’r gymuned ffermio ledled Cymru â llwyfan i rannu gwybodaeth ac arddangos sut i gynyddu bioamrywiaeth a mynd i’r afael â newid hinsawdd.
  • Rhannu gwyddoniaeth GWCT a darparu cyngor i ffermwyr, a’u helpu i adnabod bylchau gwybodaeth ar gyfer ymchwil pellach er mwyn darparu atebion ymarferol i broblemau.
  • Dangos i Lywodraeth Cymru, gweinidogion a gweision sifil beth y mae ffermwyr eisiau gwneud ar gyfer yr amgylchedd a’u rhoi wrth wraidd y broses o lunio polisïau.
  • Ymgysylltu’n ehangach â’r cymunedau o ffermwyr, busnesau, cyrff anllywodraethol, ymgynghorwyr, myfyrwyr ac ysgolion, er mwyn gwella’r ddealltwriaeth o faterion amaethyddol ac amgylcheddol.