Skip to content

Y Gylfinir a Thirwedd Cymru – Cyfres Gweminarau

Ymunwch â ni ar gyfer pennod gyntaf cyfres gweminarau ddiweddaraf GWCT Cymru, lle rydym yn ymchwilio i fyd natur a chelf yng Nghymru. Mae ein gwestai arbennig, Owen Williams, yn artist hunanddysgedig sy’n llunio silwetau eiconig tirwedd Cymru a hefyd yr adar arwyddluniol sy’n byw yma, gan gynnwys y Gylfinir Ewrasiaidd.

Byddwch yn rhan o sesiwn ysbrydoledig gyda’n gwestai arbennig, wrth iddo arddangos ei fyfyrdodau teimladwy o dirwedd ac amgylchedd Cymru, gan rannu ei ysbrydoliaeth greadigol, a dathlu’r berthynas hudolus rhwng celf a natur.

Gallwch ddarganfod mwy am Brosiect Cysylltu Gylfinir Cymru drwy fynd i’n gwefan:
www.gwct.org.uk/curlewconnections

Upcoming Events

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *