Cysylltu Gylfinir Cymru yw’r prosiect cadwraeth ddiweddaraf sy’n ymwneud âg adar hirgoes. Caiff ei gefnogi gan ‘Gronfa Rhwydweithiau Natur’ Llywodraeth Cymru, drwy Gronfa Treftadaeth y Loteri. Mae miliwn o bunnoedd wedi’i ddyrannu i gefnogi gylfinir sy’n bridio yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar dair ‘Ardal Gylfinir Pwysig’. Mae GWCT cydweithio mewn partneriaeth ag AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac yn arwain ar y gwaith yn Sir Drefaldwyn
Nod Cysylltu Gylfinir Cymru yw mynd i’r afael â’r materion allweddol achosi bridio isel y gylfinirod, monitro a deall poblogaethau gylfinirod yn yr ardaloedd hyn, gan weithredu gwaith rheoli ysglyfaethwyr a chynefinoedd ar flaen y gad. Gyda’r rhagdybiaeth y bydd y gylfinirod bridio wedi diflannu yng Nghymru erbyn 2033, agwedd bwysig o’r prosiect yw cysylltu’r dirwedd a phobl â’r adar eiconig hyn. Bydd tîm o Swyddogion Gylfinir a Phobl ymroddedig yn gweithio’n agos gyda ffermwyr, tirfeddianwyr a rheolwyr tir, ochr yn ochr â gweithlu o wirfoddolwyr i wella llwyddiant poblogaethau lleol o ylfinirod ledled Cymru.
Ardaloedd Gylfinir Pwysig (ICA’s)
Mae’r map isod yn dangos y 12 Ardal Gylfinir Pwysig yng Nghymru. Mae Prosiect Cysylltu Gylfinir Cymru yn canolbwyntio ar dri.
- ICA 5 Mynyddoedd De Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy
- ICA 9 Sir Drefaldwyn a Gogledd Sir Faesyfed
- ICA 12 Dalgylch Wysg a Llyn Syfaddan
Y gylfinir yw aderyn hirgoes mwyaf ym Mhrydain, sy’n adnabyddus am ei alwad byrlymus a’i big hir. Yn y gaeaf maent yn mudo i’r arfordir, lle mae gylfinirod o ogledd Ewrop yn ymuno â nhw. Maent yn dychwelyd i’w tiriogaethau bridio ym mis Ebrill, dodwy wyau ddechrau mis Mai, gyda chywion yn gadael y nyth yng nghanol mis Gorffennaf. Mae’r gylfinir yn nythu ar y llawr mewn glaswelltir agored a rhostiroedd. Mae cynefin delfrydol ar gyfer y gylfinir yn wlyb, glaswelltir pori, neu ddolydd gwair heb lawer o goed a phrysgwydd i ysglyfaethwyr guddio ynddynt.
Sut swn sydd gan alwad y Gylfinir?
Mae gan y gylfinir Ewrasiaidd fel adar eraill lawer o alwadau gwahanol yn dibynnu ar y sefyllfa. Cliciwch ‘chwarae’ ar y tri galwad gwahanol y gallech ddisgwyl eu clywed:
Galwad “Amrywiol” (“bubbling) fel arfer i’w glywed yn ystod arddangosfa fridio:
Galwad nodweddiadol fel larwm “Cur-lî” nodweddiadol glasurol, fel arfer i’w glywed pan fydd perygl yn agosáu:
Galwad amddiffynnol “Larwm” fel arfer i’w glywed yn pan fydd y nyth neu gywion o dan fygythiad:
Pam mae Gylfinir angen ein help?
Rhagwelir y bydd y gylfinir yng Nghymru ar drothwy diflannu erbyn 2033 (ddim yn rhywogaethau bridio hyfyw mwyach). Y gylfinir yw’r flaenoriaeth bwysicaf o ran cadwraeth adar yng Nghymru. Credir ar hyn o bryd bod poblogaeth y gylfinirod yng Nghymru yn gostwng ar gyfradd o 6% y flwyddyn.
Mae yna lawer o ffactorau sy’n achosi dirywiad y gylfinirod. Mae’r canlynol yn tynnu sylw at rai o’r ffactorau pwysicaf:
- Ysglyfaethu
- Cynefin yn cael ei wasgaru
- Plannu Coed
- Draenio tir llaith
- Argaeledd bwyd
Mae Cysylltu Gylfinir Cymru yn gweithio gyda thirfeddiannwr, ffermwyr a chymunedau lleol ledled Cymru i helpu i achub y rhywogaethau godidog hyn.
Ydych chi wedi gweld Gylfinir yng Nghymru?
Gallwch chi helpu! Ydych chi’n meddwl eich bod chi wedi clywed neu weld Gylfinir? Ydi’r Gylfinir yn nythu ar dy dir?
Dod yn Wirfoddolwr
Helpwch ni i fonitro a gwarchod y gylfinirod – ennill sgiliau newydd fel arolygu, mwynhau’r awyr agored a chael effaith bositif ar Adferiad y Gylfinirod.
Darperir yr holl hyfforddiant felly os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan (neu’n adnabod rhywun a fyddai) cliciwch y botwm gofrestru isod!
Cerddoriaeth Myfyrdod y Gylfinir
Galwad carismatig cri y Gylfinir yng nghefn gwlad yn gyhoeddi ei fod yn cyrraedd o lannau pellach. Ymgyfarwyddwch eich hunain â’u galwad i’n helpu i ddod o hyd i’r rhywogaeth eiconig hon a’i gwarchod. Chwaraewch ar y trac hwn ym mhobman yr ewch chi; yn y gwaith, yn eich cartref neu yn yr ystafell ddosbarth. Does byth amser anghywir i glywed galwad atgofus y gylfinir.
Cysylltwch
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech gymryd rhan, gallwch e-bostio Tîm Cysylltu Gylfinir Cymru gan ddefnyddio’r manylion isod:
ICA 9 Sir Drefaldwyn a Gogledd Sir Faesyfed – Katie Appleby (GWCT Cymru):
E-bost: kappleby@gwct.org.uk
Ffôn: 07458 147148
Cysylltu Gylfinir – GWCT Cymru
E-bost: curlewconnections@gwct.org.uk
Cysylltu Gylfinir – Katie Appleby (Swyddog Prosiect Cysylltu Gylfinir Cymru – Montgomeryshire) and Julieanne Quinlan (Rheolwr Prosiect Cysylltu Gylfinir Cymru)
Gallwch ddilyn y prosiect ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r dolenni isod: