Bu Elin Thomas, Lee Oliver a Sue Evans o GWCT Cymru yn y digwyddiad hwn yn Fferm Coed Coch, Sir Ddinbych a dyma adroddiad gan Elin am y digwyddiad llwyddiannus hwn:
Diwrnod gwych yn nigwyddiad Da-byw 2024, diwrnod a roddodd bwyslais mawr ar bobl, elw a’r blaned. Roedd hyn yn ganolbwynt i’r holl sgyrsiau a ffermio adfywiol yn llwyddo i gyfeirio at y 3 yma.
Dechreuwyd y diwrnod gyda sgwrs ddiddorol gan Siobhan Griffin a oedd yn trafod Next Level Grazing, ei phrofiadau hi a’n rhoi cyngor ar sut i fynd ati a beth oedd gwahanol rannau o’r broses. Yn ei dilyn oedd John Gilliand, a roddwyd proffil hynod o ddiddorol am yr hyn y mae o wedi ei gyflawni, sy’n cynnwys mesur carbon. Yr hyn sydd wedi aros yn y cof am sgwrs John Gilliand ydi ei eiriau mai “mesur a chael ffigurau yw’r peth pwysig i wneud”, credaf fod hyn yn rhywbeth allweddol.
Yn y prynhawn, cafwyd y cyfle i grwydro o gwmpas 4 gorsaf wahanol, gyda sesiynau yn cael eu cynnal gan Rhys Owen, Rhys Williams, James Daniel a Joel Williams.
Gan Rhys Owen, cafwyd eglurhad am grwpiau gwahanol, rhinweddau’r cnydau a pha cnydau sy’n addas ar gyfer ffurfio gwndwn llysieuol. Fe aeth Rhys Williams ymlaen i drafod pentyrru a phorfa byrnau, sut mae o wedi mynd ati i brofi hyn, a’r canlyniadau mae wedi eu gweld hyd yn hyn. Gwnaeth James Daniel o Precision Grazing fynd ati i ddangos yr opsiynau gwahanol sydd ar gael ar gyfer ffensys electrig, sy’n ddefnyddiol ar gyfer dulliau pori gwahanol ac effeithiol. I orffen y sesiwn yma, trafododd Joel Williams iechyd pridd a dangos ffordd syml ar sut i gymryd sampl o bridd a phrofi ei iechyd drwy arsylwad gweledol.
I orffen y diwrnod, gafwyd trafodaeth panel wedi ei arwain gan Amber Rudd. Dyma gyfle i’r gynulleidfa gwestiynu aelodau’r panel, a’r cwestiynau yn sbarduno trafodaeth o’r llawr i’r llwyfan. Diwrnod yn llawn gwybodaeth ac yn agoriad llygad i ddulliau newydd i’w defnyddio o fewn amaeth.