Diwrnod wedi ei lenwi â llwyddiant yn sioe Dinbych a Fflint. Cyfle arall i gydio â diwylliant a thraddodiadau amaethyddol Cymru. Dyma sioe sy’n wir adlewyrchu gwerth y gymdeithas amaethyddol yng Nghymru a sut mae’n gallu dod at ei gilydd i gynnwys y gymdeithas ehangach a gwneud i bawb deimlo’n rhan. Sioe sy’n dathlu amaeth a diwylliant. Cafwyd y tîm gyfle i fod yn rhan o’r digwyddiad hwn, gyda stondin yn yr ardal gofal cefn gwlad. Cafwyd tîm GWCT Cymru lwyddiant aruthrol, a hynny drwy fwy nag un ystyr; y cyfle i arddangos ein gwaith ar ei orau, y cyfle i gymdeithasu ac adeiladu perthnasau, ac i grynhoi ein gwaith caled a’n parodrwydd i lwyddo a gwneud yn dda, fe gydiwn yr ail wobr am y stondin masnach orau.
Mae digwyddiad fel hyn yn atyniad gwych ar gyfer atynnu ystod eang o bobl o gefndiroedd gwahanol, boed hynny o amaeth neu beidio. Ond, y peth sydd mor allweddol ac yn hynod o arbennig gan GWCT ydi fod modd ymgysylltu gyda phawb gan fod amrywiaeth o brosiectau a digwyddiadau gwahanol sydd o ystyr neu ddiddordeb i gynulleidfa mor eang. Ynghyd â hyn, mae’n hanfodol i ganolbwyntio a phwysleisio ar ba mor bwysig yw hi i addysgu plant o oedran cynnar am faterion cadwraeth a bioamrywiaeth a mae hyn yn cael ei ddangos yn ein stondin drwy ymgysylltu a’r gynulleidfa ifanc drwy gynnal gweithgareddau sy’n apelio, ond eto’n addysgiadol. Mae hyn yn crisialu ein hangerdd tuag at gadwraeth a bioamrywiaeth, ond hefyd tuag at sicrhau fod pawb yn rhan o hyn.
Diwrnod a hanner a bendant yn ddiwrnod i’w gofio! Bendant yn ddiwrnod roedd ar ein hochr ni, hyd yn oed y tywydd! Llongyfarchiadau mawr i’r holl drefnwyr ar sioe wych arall a diolch yn fawr am gael bod yn rhan o’r diwrnod gwych yma. Ymlaen i’r nesaf!