- This event has passed.
Noson o Flasu Helgig – Yng nghwmni Pwyllgor GWCT De Orllewin Cymru
7 November @ 6:00 pm - 8:30 pm
£35Mae Pwyllgor GWCT Gorllewin Cymru yn falch o’ch gwahodd i Fwyty a Siop Goffi SEED yng Ngholeg Sir Benfro.
Ymunwch â ni yn y bwyty enwog hwn yng Ngholeg Sir Benfro ble y byddwch yn profi bwyd 3 chwrs yn cynnwys pry di ddechrau a phrif gwrs yn cynnwys helgig, cyn gorffen gyda phwdin.
Bydd myfyrwyr yn paratoi y bwyd, yn ei weini ac yn cynnal gweithgareddau’r noson yn y bwyty. Maent yn
cymryd balchder wrth baratoi a gweini’r bwyd hyfryd, ac yn goruchwylio eu gilydd er mwyn ennyn profiad o reoli bwyty a chegin.
Arweinir y myfyrwyr gan dîm proffesiynol o staff er mwyn cyrraedd y safonau uchaf posib.
Rydym yn hynod gyffroes gallu cryfhau’r cysylltiadau gydag angorau’r sector bwyd a dod at ein gilydd i ddathlu a hyrwyddo bwyta helgig o darddiad cynaliadwy yma yng Ngorllewin Cymru.
Rydym ni fel pwyllgor yn edrych ymlaen i’ch croesawu i leoliad ysbrydoledig ar gyfer y digwyddiad hwn.