Diwrnod Saethu Clai GWCT Ceredigion 2025
16 March @ 10:00 am - 4:30 pm
£50Bydd Pwyllgor GWCT Ceredigion yn cynnal diwrnod Saethu Clai ym Maes Saethu Dyffryn Dyfi ger Machynlleth.
Bydd yn ddiwrnod cyfeillgar saethu 100 clai, yn costio £50 y gwn os yn talu ymlaen llaw (£60 os yn archebu ar y diwrnod).
Gwobrau:
- Y brif wobr (1af): Peg ar ddiwrnod saethu Cambrian Bird – gwobr werth £1000
- Y sgôr isaf: Taleb Anrheg ‘Aur’ ar gyfer Gwersi Saethu ym Maes Saethu Dyffryn Dyfi – gwobr werth £100
Gweithgareddau Teuluol am ddim:
Gweithgareddau crefft wedi eu hysbrydoli gan y diwrnod saethu hwn, gyda chyfle i bawb gymryd rhan. Dewch â’r teulu.
Bwyty newydd ar y safle:
Bydd bwyty newydd ar y safle i’ch croesawu, cymerwch olwg are u bwydlen i gynllunio ymlaen llaw!
ARCHEBWCH NAWR: Ffurflen Archebu
Bydd yr holl elw a wneir o’r digwyddiad hwn yn mynd i gefnogi gwyddoniaeth GWCT yng Nghymru.