Croeso
Mae cymuned ffermio GWCT Cymru yn blatfform ar gyfer ffermwyr Cymru sy’n frwdfrydig i wrthdroi dirywiad mewn bioamrywiaeth, ochr yn ochr hefo rhedeg busnes amaethyddol proffidiol. Mae’n blatfform gwerthfawr i arddangos sgiliau, profiadau a gweithredoedd mae ffermwyr yn eu gymryd i gefnogi bioamrywiaeth a hybu cadwraeth. Gyda hyn, rydym yn gobeithio bod hyn yn rhoi llais i ni a’n ffermwyr i roi neges bwerus i Lywodraeth Cymru.
Ein blaenoriaeth ni ydi sicrhau fod ffermwyr yn wraidd i’r weithred o lunio polisïau amaeth-amgylchedd. Mae hyn yn gyfle i ddangos fod ffermwyr yn fodlon cymryd rhan mewn prosiectau a gweithredodd i wella’r amgylchedd a chefnogi bioamrywiaeth a chadwraeth, ond mae angen pwysleisio ar angen am gymorth i wneud hyn, yn wybodaeth ac yn ariannol.
Fydd hyn yn gyfle i gyfnewid a rhannu gwybodaeth, partneru i addasu a theilwra mesurau amgylcheddol a chadwraeth, a chydweithio er mwyn adfer natur . Ag yn bwysicach nag oll, mae’n gyfle i’n ffermwyr rannu eu llais gyda ni. Gallwch ddarganfod mwy am amcanion y siarter ffermio ar gyfer y gymuned isod.
Rydym yn mawr obeithio y byddwch yn ymuno hefo’n cymuned ffermio heddiw.
Ymunwch â’r Gymuned Ffermio
Dysgwch fwy am Gymuned Ffermio GWCT Cymru, dysgwch beth ydyw a beth allwch chi ei gyflawni drwy ymuno heddiw