Skip to content

Ynglŷn

Gweithwyr Cadwraethol: Rhoi ymchwil ar waith

Cydnabu GWCT yn gynnar fod angen ymyriadau sy’n seiliedig ar wyddoniaeth i sicrhau cadwraeth aml-ddimensiwn, gan integreiddio cynhyrchu bwyd ag adfer bioamrywiaeth a’r gymuned leol. Heddiw mae’r dyhead hwn yn bwysicach nag erioed, gyda GWCT yn cyflogi dros 60 o wyddonwyr mewn ystod eang o feysydd o ecoleg ffermdir ac afonydd i iechyd y pridd.

Ers degawdau mae GWCT wedi bod yn gweithio â rheolwyr tir i ddatblygu datrysiadau ymarferol
i heriau cadwraeth ffermdir a gaiff eu datblygu o’i gwaith ymchwil. O ganlyniad, mae nifer o opsiynau mwyaf poblogaidd cynllun amaeth-amgylcheddol y Llywodraeth yn seiliedig ar wyddoniaeth GWCT.

Yn ogystal â’r gwyddorau naturiol, mae dyhead unigryw GWCT i gadwraeth yn cymryd i ystyriaeth dimensiynau cymdeithasol ac economaidd, sy’n ddylanwad mawr ar sut mae ffermwyr yn rheoli eu tir. Ein partneriaethau â ffermwyr a rheolwyr tir preifat eraill, y Gweithwyr Cadwriaethol ar lawr gwlad, fu’r sylfaen ar gyfer prosiectau ledled y DU sydd wedi llwyddo i wrthdroi dirywiad rhai o’r bywyd gwyllt sydd wedi bod dan fygythiad mwyaf.

Bioamrywiaeth

Mae GWCT yn defnyddio 50 mlynedd o ymchwil ecoleg tir fferm arloesol. Darganfu’r ‘Sussex Study’, yr astudiaeth hiraf o’i fath yn y byd, yn y byd amaeth ôl-ryfel, beth oedd yn achosi’r dirywiad mewn poblogaethau adar ffermdir. Mewn ymateb, dyfeisiodd GWCT ystod o opsiynau amaeth-amgylchedd yn cynnwys pentiroedd cadwraeth, cloddiau chwilod, a rheoli ymylon caeau gan ganiatáu lleihad yn y defnyddio o bryfleiddiad a chwynladdwyr. Wedi’i roi ar waith gan ffermwyr, yn aml ar raddfa’r dirwedd drwy Glystyrau Ffermwyr GWCT, mae mesurau cadwraeth GWCT wedi llwyddo i wrthdroi dirywiad llawer o rywogaethau sydd ar y rhestr goch, yn amrywio o ysgyfarnogod a llygod dŵr i’r gornchwiglen a’r fronfraith.

Pridd

Dros yr 20 mlynedd ddiwethaf, mae ein fferm arddangos yn Swydd Gaerlŷr wedi cynnal ymchwil yn ymwneud â rheoli pridd er mwyn sicrhau buddion i gnydio a’r amgylchedd. Adnabu astudiaethau i leihau’r dwysedd trin y tir y buddion o ran lleihau llif dŵr, lleihad yn y gost o sefydlu cnydau, a chynnydd ym miomas microbaidd y pridd. Roedd prosiect arall yn mynd i’r afael â’r llif dŵr yn sgil olion cerbydau, a datgelodd arbrawf ar lain erydiad bod teiars a phwysedd isel ar y tir yw’r modd mwyaf effeithiol o leihau cywasgiad pridd oherwydd cerbydau fferm.

Dŵr

Mae Ffermio sy’n Gyfeillgar i Ddŵr yn cyfuno cyfranogiad gweithredol ffermwyr a defnyddio a gwerthuso mesurau mewn modd gwyddonol i wella ansawdd y dŵr, wrth gynnal incwm ffermydd. Drwy weithio yn nalgylch tri blaenddwr, rhoddodd tîm ymchwil GWCT ystod o fesurau gan gynnwys trapiau llaid ac argae llifogydd yn eu lle, gan barhau i fonitro eu heffeithiau drwy gasglu data ar y llif, crynhoad maetholion a phlaladdwyr, gwaddod, planhigion dyfrol ac anifeiliaid di-asgwrn-cefn.

Newid Hinsawdd

Mae GWCT wedi bod ar y blaen wrth ddatblygu ffyrdd ymarferol i ffermwyr leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr drwy reoli’r pridd a da byw. Yn fwy diweddar, mae GWCT wedi dechrau ar y gwaith o ddatblygu cod carbon ar gyfer gwrychoedd, a fydd

yn helpu rheolwyr tir i wrthbwyso eu hallyriadau ac elwa o fasnachu cyfalaf naturiol. Mae’r prosiect yn mesur pob agwedd o gapasiti storio carbon gwrychoedd, o’r dail i’r gwreiddiau, a’r pridd oddi tano.