Daeth grŵp o tua 60 o ffermwyr a theuluoedd ynghyd ar gyfer digwyddiad cymdeithasol arbennig Cyfrif Mawr Adar Ffermdir yn Neuadd Bentref Adfa ym Mhowys, canolbarth Cymru, i baratoi ar gyfer cyfrifiad blynyddol y DU o adar tir fferm.
Mae Cyfrif Mawr Adar Ffermdir, sy’n cael ei redeg gan yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Gêm a Bywyd Gwyllt (GWCT) ac a noddir gan NFU Cymru, yn parhau am bythefnos tan ddydd Sul 23 Chwefror.
Siaradodd Cyfarwyddwr GWCT Cymru, Lee Oliver, am y cyfrif a pham ei bod yn bwysig cymryd rhan, sut y gall helpu ffermwyr i ddeall yr hyn sydd ganddynt ar eu tir a sefydlu gwaelodlin ar gyfer bioamrywiaeth. Gall hyn yn ei dro lywio penderfyniadau a chynlluniau ar gyfer sut maen nhw’n rheoli eu ffermydd i helpu adar a bywyd gwyllt eraill i ffynnu.
Roedd y gwesteion hefyd yn mwynhau rhost mochyn a noddir gan Undeb Amaethwyr Cymru, ac yna treulio peth amser yn adeiladu blychau adar ar gyfer y titw tomos las. Aeth y plant yn yr ystafell yn syth ati, gyda rhai hyd yn oed yn adeiladu dau focs ar gyfer ffermydd eu rhieni neu neiniau a theidiau.


Trefnwyd y digwyddiad ar 30 Ionawr ar gyfer aelodau grŵp ATB Cefn Coch gan John a Sarah Yeomans, sy’n ffermio yn Llwyn y Brain ger Y Drenewydd ac sydd wedi bod yn cymryd rhan yn y cyfrif ers 2020.
Dywedodd Lee: “Mae’n bwysig iawn bod y gymuned yn cymryd rhan os ydym am helpu adar ffermdir, gan fod llawer ohonynt yn dirywio. Mae gallu gwneud rhywbeth ymarferol, fel adeiladu blwch adar, yn gwneud i bobl deimlo y gallant wneud gwahaniaeth.
“Y llynedd, cynhaliwyd 64 cyfri yng Nghymru. Pe bai pob ffermwr a oedd yn yr ystafell yn cymryd rhan eleni, gallem ddyblu’r ffigwr hwnnw. Rydym am ddangos bod ffermwyr yng Nghymru yn gwneud gwahaniaeth i adar ffermdir a thrwy gasglu’r data hwn, flwyddyn ar ôl blwyddyn, gallwn ddangos eu bod nhw.”
Ffilmiwyd y digwyddiad hefyd gan raglen Ffermio S4C a rhoddodd y cyflwynydd Alun Elidyr araith fyrfyfyr ac angerddol iawn i bawb yn yr ystafell am bwysigrwydd cydweithio, gyda gwleidyddion a’r cyhoedd yn ehangach, i ddod o hyd i atebion, osgoi gwrthdaro a dangos sut mae ffermio yn rym cadarnhaol a hanfodol i Gymru a’i phobl. Cafwyd croeso cynnes iawn gan bawb yn yr ystafell.
Bu Ffermio hefyd yn ffilmio gyda’r Yeomans yn gynharach yn y dydd yn eu fferm 275 erw, lle maent yn cadw defaid a gwartheg ac yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o brosiectau gwella bioamrywiaeth. Siaradodd Alun â John a’i fab Joe am Gyfrif Mawr Adar Ffermdir a sut maen nhw wedi adnabod 70 rhywogaeth o adar ar eu tir, llawer ohonyn nhw ar y rhestr goch.
FIDEO: Gwyliwch yr Yeomans ar Ffermio
Esboniodd Lee wrth y gwylwyr sut mae’r cyfrif yn golygu eich bod yn treulio 30 munud yn cofnodi rhywogaethau adar a niferoedd pob un ar eich fferm a’r tir o’i gwmpas yn ystod cyfnod o bythefnos yn y gaeaf. Yna cyflwynir y canlyniadau i’r GWCT ar-lein neu drwy’r post.
Mae adar ffermdir wedi gostwng 63% yn ystod y 50 mlynedd diwethaf. Mae’r allwedd i wrthdroi’r duedd yn cael ei chadw gan y bobl sy’n gofalu am 72% o’r DU sy’n dir amaethyddol. Mae Cyfrif Mawr Adar Ffermdir yn annog ffermwyr, rheolwyr tir a bywyd gwyllt i dreulio 30 munud yn cofnodi’r rhywogaethau adar a’r niferoedd o bob un ar eu ffermydd a’u tir cyfagos yn ystod cyfnod o bythefnos yn y gaeaf.