Skip to content

Cadwraeth Helgig yng Ngogledd Ddwyrain Cymru

Ym mis Chwefror cynhaliwyd digwyddiad hyfryd Pwyllgor GWCT Gogledd Ddwyrain Cymru ‘Cadwraeth Helgig’ mewn lleoliad hyfryd bwyty Bryn Williams ym Mhorth Eirias, Bae Colwyn yng nghwmni’r ffermwr lleol Gareth Wyn Jones. Cyfarchwyd pawb gyda diod i’w croeso gyn gwledda ar bryd o fwyd helgig 3 chwrs gan y prif gogydd David Parry. Cafwyd raffl hwylus, gem pen neu gynffon, sgyrsiau gan staff GWCT a sesiwn drafodaeth gyda Gareth Wyn Jones. I orffen y noson, arweiniodd Gareth ocsiwn, gan sicrhau bod y morthwyl yn disgyn ar eitemau ocsiwn gwych a roddwyd gan fusnesau lleol. Codwyd swm anhygoel dros £4,000 yn ystod y noson.

Croesawyd Emyr Davies and Katie Cowell yn swyddogol fel aelodau newydd i’r pwyllgor gan Edwards Macfarlane, Prif Swyddog Gweithredu GWCT. Dywedodd Emyr “Noson wych yng nghwmni ffrindiau hyfryd. Rydyn ni’n dau wedi derbyn croeso cynnes i’r pwyllgor, a hoffem ddiolch i bawb a gefnogodd a sicrhau ei fod yn noson lwyddiannus a gododd arian ar gyfer gwaith ymchwil parhaol. Diolch i’n siaradwr gwadd Gareth Wyn Jones am ei waith parhaol yn ceisio addysgu’r genhedlaeth am bwysigrwydd cefn gwlad a’r ffordd y caiff ei reoli.”

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *