Skip to content

Saethu yng Ngwysaney yn cefnogi cadwraeth GWCT yng Nghymru

Yn dilyn tymor saethu llwyddiannus 2024-25 yn ‘Gwysaney Sporting Club Ltd’ mae’r perchennog James Davies-Cooke wedi cyflwyno rhodd syfrdanol o £10k i GWCT Cymru a godwyd ar Ddiwrnod Saethu Ifanc a drwy gasgliadau swîp (sweepstakes) drwy gydol y tymor.

Rhedir Gwysaney Sports Club Ltd gan James a’i deulu ble maent yn cynnig y cyfle i saethu ffesantod a phetrIs. Fe’i lleolir ym mryniau Sir y Fflint dim ond 14 milltir o Gaer.

Cynhaliwyd Diwrnod Saethu i’r Ifanc ar 2 Medi 2024, gydag 8 saethwr ifanc addawol yn awyddus i brofi diwrnod yn y bryniau o dan arweiniad arbenigol tîm Gwysaney. Cafodd y mynychwyr ynghyd â’u teuluoedd eu cyfarch gyda rholiau bacwn wrth gyrraedd Gwysaney. Dechreuodd y bore gyda 2 leoliad saethu (gan gynnwys un heriol yn y niwl!) a saib am ychydig i’w fwyta ac yfed ganol bore. Rhoddwyd/ noddwyd pegiau ar y diwrnod yn garedig gan rai o’n gwŷr saethu arferol gan gynnwys David Sheldrake, Chris Smith, Josh Pritchard i enwi ond ychydig. Diolch yn fawr iawn unwaith eto i bawb am eu haelioni. 

Bu iddynt ymweld â dau safle saethu arall ym mhen y dyffryn yn y prynhawn, cyn mynd yn ôl i’r ystafell saethu am fwffe o fwydydd  lleol, gan gynnwys petrIs a chig carw i orffen diwrnod gwych

Dywedodd Lee Oliver, Cyfarwyddwr GWCT Cymru “Rydym yn ffodus i dderbyn rhodd mor hael gan James a’r tîm yng Ngwysaney, diolch yn fawr iawn. Bydd yr arian a godir yn mynd tuag at ein gwaith cadwraeth barhaus yng Nghymru, gan geisio gwrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth. Mae hyn yn amlygu’r gwaith da y mae saethu yn ei wneud ar gyfer cadwraeth.”

Cyflwynodd James y rhodd garedig i Owen Williams Cadair GWCT Cymru yn Sioe Saethu Prydain ym Mirmingham ar 14 Chwefror 2025.

Dywedodd James Davies-Cooke, Perchennog Saethu Gwysaney: “Rydym yn awyddus i unrhyw arian a godir yn nigwyddiadau Gwysaney fwydo yn ôl i’r gymuned saethu a’r wyddoniaeth a gaiff ei arwain gan GWCT. Hyd yn hyn rydym wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau gyda GWCT, o deithiau cerdded saethu i’r diwrnodau saethu i’r ifanc. Rydym yn edrych ymlaen at ein digwyddiad nesaf er budd gwaith gwyddonol GWCT Cymru ym maes cadwraeth.”

Mae croeso cynnes i’w gael gan James â’i dim os yn ymweld neu’n saethu yng Ngwysaney.

Digwyddiad GWCT nesaf yng Ngwysaney: Diwrnod Saethu i’r Ifanc 2025, 1 Medi 2025 – ARCHEBWCH NAWR

Mae cynllun swîp (sweepstake) GWCT yn ffordd syml ond effeithiol o godi arian yn ystod y tymor saethu i gefnogi gwaith pwysig GWCT Cymru. Am ragor o wybodaeth:

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *