Yn 2024 cynhaliwyd tri digwyddiad ‘Blasu Helgig’ ar draws Cymru, wedi eu trefnu gan Bwyllgorau Codi Arian GWCT Cymru.
Gan weithio mewn partneriaeth â myfyrwyr a darlithwyr o 3 coleg lleol, rhoddodd gyfle i bawb a fynychodd i brofi bwyd gan unigolion talentog sy’n gweithio yn gael di fentro i mewn i’r sector lletygarwch gyda chefnogaeth staff y colegau.
Bu pob digwyddiad yn gyfle i arddangos beth sy’n bosib o ran helgig, a’r rôl y mae’n ei chwarae mewn ymarferion bwyd cynaliadwy. Drwy brydau blasus a sgyrsiau difyr, gwelwn sut ma helgig yn cysylltu ymdrechion cadwraethol a ffordd o fyw cynaliadwy.
Pwyllgor Gogledd Ddwyrain Cymru
24/10/2024 Bwytyl lâl, Coleg Cambria, Wrexham





Ym mis Hydref croesawyd fynychwyr gan Bwyllgor GWCT Gogledd Ddwyrain Cymru i ddigwyddiad Blasu Helgig ym Mwyty Iâl, yng Ngholeg Iâl, Wrecsam. Bu’r cogyddion a’r myfyrwyr yn brysur yn gweini gwledd o salad ffesant, cig carw a bara brith, wedi eu paratoi yn drylwyr gyda sgil a chreadigrwydd. Roedd y digwyddiad yn gyfle gwych i glywed mwy am brosiectau diweddara GWCT yng Nghymru yn ogystal a dal i fyny a rhannu angerdd am helgig, gan ddod a bawb ynghyd i flasu helgig a mwy!
Pwyllgor Gorllewin Cymru
7/11/2024 Bwyty Seed, Coleg Sir Benfro, Hwlffordd



Cynhaliwyd yr ail ddigwyddiad ‘Blasu helgig’ ym Mwyty ‘Seed Restaurant’ dan ofal myfyrwyr Coleg Sir Benfro a Phwyllgor GWCT Gorllewin Cymru. Bu’n llwyddiant ysgubol gyda mynychwyr yn amrywio o aelodau GWCT i aelodau’r dyfodol o’r genhedlaeth iawn (a fwynhaodd y digwyddiad y neu cadeiriau uchel!). Cafwyd sgwrs fer gan Owen Williams Cadeirydd GWCT Cymru yn sôn am waith GWCT yng Nghymru ar hyn sy’n digwydd ar lawr gwlad ar hyn o bryd, yn ogystal ag edrych i’r dyfodol.
Pwyllgor Ceredigion
19/12/24 Bwyty Maes y Parc, Coleg Ceredigion, Aberteifi




Croesawyd 44 o fynychwyr brwd i ail ddigwyddiad ‘Blasu Helgig’ Pwyllgor Ceredigion i Fwyty maes y Parc yng Ngholeg Ceredigion ar Rhagfyr 19 2024. Arweiniodd Huw Morgan (Rheolwr a Darlithydd Arlwyo/Lletygarwch a Sam Everton (Darlithydd Coginio) eu myfyrwyr drwy’r broses o baratoi a gweini pryd 7 cwrs blasu helgig Nadoligaidd, gwych. Roedd y blas, cyflwyniad a’r gwasanaeth yn ardderchog. Y safon yr ydym wedi arfer ei dderbyn ganddynt erbyn hyn. Bu’r sgwrsio a’r chwerthin yn dyst i’r mwynhad a gafwyd drwy gydol yr ystafell.
Paentiwyd lun dyfrlliw gan yr arlunydd a chadeirydd GWCT Cymru, Owen Williams, yn arddangos Gylfinir yn hedfan a gafodd ei gynnwys mewn ocsiwn. Cafwyd cyflwyniadau byr am waith presennol GWCT, yn benodol y nifer o brosiectau y mae’r tîm y neu harwain. Codwyd dros £1,000 i GWCT, gyda chynlluniau ar gyfer ddigwyddiadau tebyg yn y dyfodol. Mae ein partneriaeth â Choleg Ceredigion yn mynd o nerth i nerth, edrychwn ymlaen at weld beth sydd i ddod yn 2025.
Edrychwn ymlaen ar gynnal rhagor o ddigwyddiadau ‘Blasu Helgig’ yn 2025, cadwch lygaid barcud ar ein calendr ddigwyddiadau!