Skip to content

Lleoliad Gwaith i Fyfyriwr gyda 2025/26

Bob blwyddyn mae’r GWCT yn croesawu myfyrwyr israddedig ar raddau ecoleg, cadwraeth a gwyddor data, gan gynnig cyfle cyffrous iddynt dreulio blwyddyn yn cymryd rhan mewn gwaith ymchwil pwysig yn ymwneud â chadwraeth gêm a bywyd gwyllt.

Mae’r Lleoliad Gwaith hwn yng Nghymru yn gweithio ochr yn ochr â thîm GWCT Cymru ar brosiectau amrywiol. Mae gennym amrywiaeth o brosiectau sy’n cwmpasu llawer o wahanol rywogaethau a chynefinoedd. Bydd cyfleoedd i weithio ar nifer o’r rhain drwy gydol y flwyddyn. Prosiectau ar draws Cymru yn ymwneud â rhywogaethau fel y cyffylog, bras melyn, a’r gylfinir, gyda nifer o brosiectau eraill i ddod gan gynnwys rhywogaethau fel y cudyll coch, ysgyfarnogod, grugiar ddu ac adar hirgoes.

Rydym yn annog ac yn disgwyl i’n myfyrwyr chwarae rhan lawn a gweithredol yn ein hymchwil, ac felly mae lleoliad gyda’r GWCT yn gyfle i herio’ch hun yn y maes. Mae ein lleoliadau’n cynnig cyfleoedd i ehangu eich profiad mewn meysydd fel arolygu adar a chynefinoedd; dal a thagio unigolion; trin, dadansoddi ac adrodd data; adeiladu cronfa ddata; dylunio arbrofol; GIS; a gwaith telemetreg radio.

Gall GWCT Cymru ddarparu ar gyfer myfyriwr lleoliad am hyd at flwyddyn, neu gyfnod byrrach yn ôl yr angen.

Os hoffai myfyrwyr drafod y lleoliad, dylent gysylltu â Lee Oliver loliver@gwct.org.uk

Dyddiad cau: Dydd Gwener 10 Ionawr 2025

Cyfweliadau: i’w cynnal ar-lein rhwng 27 Ionawr a 7 Chwefror 2025, gyda’r ymgeisydd llwyddiannus i ddechrau ym mis Medi 2025

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *