Skip to content

Diweddariad Myfyriwr – Tachwedd i Rhagfyr

Mae Kaylee Fay bellach wedi cwblhau ei 4 mis cyntaf ar leoliad fel myfyriwr gyda GWCT Cymru. Darllenwch isod i ddarganfod beth mae hi wedi bod yn ei wneud yn ystod mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2024.

“Dechreuodd mis Tachwedd gyda thaith deuddydd dan arweiniad Julieanne Quinlan Rheolwr Prosiect Cysylltu Gylfinir Cymru a Katie Appleby Swyddog Gylfinir a Phobl Prosiect Cysylltu Gylfinir Cymru, o amgylch sawl lleoliad gwahanol ar arfordir Gogledd Orllewin Cymru. Yn ymuno â ni ar gyfer y daith oedd grwpiau gwahanol o fyfyrwyr ail flwyddyn yn astudio Sŵoleg o Brifysgol Bangor i siarad â nhw am waith GWCT a beth yw pwrpas Prosiect Cysylltu Gylfinir Cymru. Dechreuon ni yn Llanfairfechan cyn symud i safle RSPB Conwy a gorffen yn y Spinnies, Aberogwen. Cyflwynwyd pob safle wrth i ni gyrraedd, gan eu harwain o amgylch y safleoedd gyda saib pob hyn a hyn i adnabod rhywogaethau amrywiol o adar hirgoes (gan gynnwys y Gylfinir!) ynghyd â rhywogaethau eraill a welsom. Buom yn trafod yr heriau y mae’r adar yn eu hwynebu a sut mae’r GWCT yn gweithio i’w cefnogi. Cefais y cyfle i siarad am fy rôl hyd yma yn y tîm a rhai o’r pethau niferus yr wyf wedi’u cyflawni. Nid wyf yn siaradwr cyhoeddus gwych, ac mae’n uchelgais i mi weithio ar hynny drwy gydol fy lleoliad ond gyda’r gefnogaeth anhygoel gan y merched (Julieanne a Katie) roeddwn i’n teimlo’n ddigon hyderus i gyflwyno’r sgwrs. Cefais adborth cadarnhaol a helpodd i wella fy hyder.”

“Yng nghanol mi Tachwedd mynychais gyfarfod Pwyllgor Cadeiryddion GWCT Cymru Gyfan, a gynhaliwyd ym Mhowys lle cefais gyfle i weld y cynllunio a’r trafodaethau sy’n cael eu cynnal gan y pwyllgorau ledled Cymru sy’n codi arian i gefnogi gwaith gwyddonol GWCT Cymru. Bum yn ffair gyrfaoedd Prifysgol Harper Adams ble cefais siarad â nifer o fyfyrwyr am fy lleoliad gwaith a’r nifer o bethau rwyf wedi’u cyflawni hyd yn hyn, yn ogystal â sôn am yr â’r holl brosiectau y mae’r ymddiriedolaeth yn ymgymryd â nhw.”

“Fy uchafbwynt ar gyfer mis Tachwedd oedd cwrs hyfforddiant Lantra gyrru cerbyd 4×4 yn Y Bala yng nghwmni fy nghydweithiwr James Warrington, Swyddog Prosiectau GWCT Cymru. Dysgais y pethau sylfaenol o ran sut mae cerbyd 4×4 yn gweithredu a’r mecaneg sylfaenol sy’n ei wneud yn gerbyd ‘oddi ar y ffordd’. Yna aethom allan yn y tryc i roi theori ar waith dros lawer o wahanol fathau o rwystrau, megis gyrru trwy ddŵr ac i fyny bryniau serth. Cawsom ein dysgu sut i fynd ati yn wahanol yn dibynnu os yw’r ddaear yn fwdlyd, os yn gyrru ar laswellt neu’n graig yn ogystal â mynd i lawr ardaloedd serth o dan pob math o amodau. Ar ben hynny, cawsom ddealltwriaeth o ba ongl y gall y cerbyd drin ar yr ochr yn ogystal â sgidio, sut i drin os yw un, neu ddau o’r olwynion oddi ar y ddaear ac yn bwysicaf oll sut i yrru am yn ôl yn ddiogel os nad yw’r cerbyd yn llwyddo i deithio i fyny bryn. Mae’r hyfforddiant hwn yn hanfodol ar gyfer gyrru’r math hwn o dir ac rwy’n ddiolchgar o’r cyfle i gwblhau’r cwrs.”

“Arafodd mis Rhagfyr o ran digwyddiadau, gan ganiatáu i mi weithio gartref a chanolbwyntio ar greu adnoddau a chynnal gwaith ymchwil yn ogystal â chymryd rhan fach wrth reoli’r cyfryngau cymdeithasol ar gyfer GWCT Cymru. Gyda chymorth y tîm, creais ganllaw ysglyfaethu, sy’n ymdrin â sawl agwedd, sydd bellach wedi’i argraffu fel llyfryn ac a roddwyd i swyddogion ysglyfaethu yn y digwyddiad Hyfforddiant Ysglyfaethu a gynhaliwyd yn y Drenewydd. Roedd yn ddigwyddiad gwych gan roi cyfle i swyddogion ysglyfaethu drafod gwahanol agweddau o’u gwaith a’r brwydrau y maent i gyd yn eu hwynebu, gan greu man diogel y gallent siarad ynddi’n hyderus wrth addysgu ei gilydd a rhannu eu profiadau. Bydd rhannau o’r canllaw ysglyfaethu hefyd yn mynd i fyny ar y wefan gydag adrannau rhyngweithiol, fel sut i adnabod Corvid.”

“Mae addysg yn rhan fawr o’r gwaith mae’r GWCT yn ei wneud, a gyda chynulleidfa darged mor eang mae’n rhaid bod rhywbeth at ddant pawb. Cefais y cyfle i greu rhai adnoddau ar gyfer y gynulleidfa iau fel gemau cof a sawl chwilair gyda themâu amrywiol a fydd i gyd ar gael yn rhad ac am ddim i’w lawrlwytho o wefan GWCT Cymru.”

“Mae Cyfrif Mawr Adar Ffermdir yn ddigwyddiad blynyddol arwyddocaol a gynhelir gan y GWCT. Eleni bydd yn digwydd rhwng 7-23 Chwefror 2025. Anogir unigolion/grwpiau o bob oed i dreulio 30 munud yn cofnodi rhywogaethau o adar a welir ar ffermydd neu o’u hamgylch ac mae’n ffordd wych o adeiladu cofnodion. Mae llawer o adnoddau gwych ar gael ar y wefan ac roedd yn rhaid i mi gyfrannu trwy greu gemau, yn debyg i’r rhai a greais ar gyfer gwefan GWCT ond gyda’r thema rhywogaethau adar. Mae’n ffordd wych o ddechrau adnabod adar yn ifanc a chael dealltwriaeth o ba rywogaethau sydd fwyaf cyffredin.”

“Yn ystod y deufis hwnnw, fe wnes i hefyd weithio ar a chreu siop gyntaf GWCT Cymru. Aeth y siop yn fyw ddiwedd mis Tachwedd a byddwn yn parhau i ychwanegu mwy o ddyluniadau a mwy o gynnyrch drwy gydol 2025.”

“Rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfleoedd rwyf wedi’u cael hyd yn hyn, ar ôl siarad â myfyrwyr eraill ac ymgeiswyr posibl ar gyfer lleoliad y flwyddyn nesaf, rwyf wedi cael y cyfle i fyfyrio ar yr hyn rwyf wedi’i gyflawni, ac ni allaf aros i weld beth fydd gan 2025 i’w gynnig!”

Am ragor o fanylion ynglŷn â Lleoliad Gwaith i Fyfyriwr 2025/2026 dilynwch y linc yma, dyddiad cau 10 Ionawr.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y lleoliad hwn, mae croeso i chi gysylltu â Kaylee Fay yn uniongyrchol:

E-bost: kfay@gwct.org.uk

Rhif Ffôn: 07545660086

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *