Kaylee Fay yw ein myfyriwr presennol a cyntaf yma yng Nghymru. Mae hi’n astudio Ecoleg a Gwyddoniaeth Amgylcheddol ym Mhrifysgol Sir Caerloyw. Dechreuodd ei lleoliad gwaith â GWCT Cymru ar ddechrau mis Medi 2024 a bydd gyda ni hyd ddiwedd Awst 2025.

“Dwi’n methu a chredu bod fy mis cyntaf gyda GWCT Cymru wedi mynd heibio yn barod! O fewn mis yn unig, rwyf wedi ennyn cymaint o brofiad ac wedi cael y cyfle i fynychu digwyddiadau gwych yn barod! ”
“Er fy mod yn gweithio o gartref, rwyd wedi cael y cyfle i deithio i Y Rhaeadr, i fynychu cynhadledd NFU, ymweld â Chwrt Cefn Tilla yn Sir Fynwy ar gyfer digwyddiad saethu clai er mwyn codi arian i GWCT, cwblhau cwrs Cymorth Cyntaf gyda chwmni Realism Training yng Nghlwb Rygbi nant Conwy, cynorthwyo gyda digwyddiad ‘Y Gylfinir Olaf’ yn Senedd Cymru, Caerdydd le ces y cyfle i gyfarfod Huw Irranca-Davies ynghyd â gwleidyddwyr eraill gyda phŵer i ddylanwadu penderfyniadau o fewn Llywodraeth Cymru, ac yn fwy diweddar mynychu cynhadledd staff GWCT yn Salisbury gan gymysgu â rhai o arweinwyr gwyddonol blaengar gwaith ymchwil GWCT.”



“Diwedd mis Hydref teithiais i Brifysgol Bangor i fynychu ffair Gyrfaoedd gyda rhai o aelodau’r tîm i sgwrsio â myfyrwyr ynglŷn â’r gwaith sy’n cael ei wneud gan GWCT a’r cyfle i ddod yn fyfyriwr profiad gwaith 2025/26. Bu hyn yn agoriad llygaid wrth i mi sylweddoli faint o brofiad yr oeddwn i wedi ei gael yn ystod fy mis cyntaf o fod gyda GWCT.”
“Rwyf yn y broses o gwblhau modiwlau hyfforddiant drôn, a fyddaf yn ei ddefnyddio nes ymlaen yn y tymor. Yn ogystal â’r rhyddid tywysiedig i weithio ar nifer o brosiectau gwahanol, dysgu sgiliau newydd a gwneud defnydd o fy sgiliau creadigol ar gyfer dylunio graffeg a ffotograffiaeth. Rwy’n edrych ymlaen at weld be ddaw yn ystod weddill fy lleoliad gwaith, wedi i mi brofi mis cyntaf cyffrous iawn.”



Mae croeso i chi gysylltu â Kaylee yn uniongyrchol i glywed mwy am ei gwaith, holi am fywyd myfyriwr gyda GWCT Cymru, ddeall mwy am lety neu unrhyw gwestiynau eraill:
Ebost – kfay@gwct.org.uk
Ffôn – 07545660086