Bu Elin Thomas Swyddog Amaeth a Chadwraeth GWCT Cymru ynghyd â Lee Oliver Cyfarwyddwr Cymru i ddigwyddiad Glaswellt a Thail Cynaliadwy y Sioe Frenhinol yn Fferm Trawsgoed ddydd Iau diwethaf, un o ddigwyddiadau Sir Ceredigion fel sir nawdd y Sioe frenhinol eleni.
Roedd yn ddiwrnod gwych ble trafodwyd pynciau mor bwysig mewn ffordd mor arbennig. Diwrnod wedi ei lenwi efo stondinau, seminarau ac arddangosfeydd. Ffordd mor arbennig o ddangos y gymuned ffermio ar ei gorau, gyda stondinau amaethyddol yn cynrychioli’r diwydiant mewn ffordd gadarnhaol a phroffesiynol.
Yr arddangosfeydd yn llwyddo i ddangos prosesau amaeth yn digwydd a datblygiadau o fewn y diwydiant amaeth sy’n hwyluso prosesau.
Y seminarau unwaith eto yn llwyddo i dargedu pynciau pwysig o fewn amaeth, gan gynnwys gwleidyddiaeth, gwyddoniaeth gynaliadwy, cenedlaethau’r dyfodol a dyfodol cynhyrchu bwyd yma yng Nghymru. Dyma oedd yn gyfle i’r cwestiynau holl bwysig gael eu gofyn, o ddyfodol amaeth ynghlwm a gwleidyddiaeth i ddyfodol cynhyrchu bwyd yma yng Nghymru.
Dyma esiampl wych arall o sut mae’r gymuned ffermio yn dod at ei gilydd ar gyfer gwneud rhywbeth arbennig. Wedi bod yn ddiwrnod gwych, a gyda hynny mae angen llongyfarch yr holl drefnwyr am drefnu diwrnod llwyddiannus iawn.
Yn gyntaf oll, hoffwn longyfarch y trefnwyr ar ddigwyddiad mor llwyddiannus. Diwrnod wedi ei lewni efo amrywiaeth o stondinau, seminarau ac arddangosfeydd. Does dim byd heblaw canmoliaeth tuag at y diwrnod. Ffordd mor arbennig o ddangos y gymuned ffermio ar ei gorau, gyda stondinau amaethyddol yn cynrychioli’r diwydiant mewn ffordd gadarnhaol a phroffesiynol Credaf fod y seminarau yn arbennig, yn ehangu dealltwriaeth ag yn trafod pynciau pwysig iawn am ddyfodol y diwydiant amaeth yma yng Nghymru.
Yn y seminar wleidyddol, cafodd pwyntiau pwysig a cryf eu gwneud a chwestiynau pwysig eu gofyn. Roedd hyn yn gyfle i wrando ar safbwyntiau a chred partïon gwleidyddol gwahanol. Cafodd dadleuon cryf a theg eu gwneud am ddyfodol amaethyddiaeth ynghlwm a gwleidyddiaeth. Parch mawr at bawb am gymryd rhan a hefyd at y sawl a ofynnodd y cwestiynau holl bwysig a oedd angen eu gofyn.
Ymlaen i’r seminar gwyddoniaeth gynaliadwy, lle bu drafodaeth ddiddorol am ddiffiniad y term ‘cynaliadwy’. Roedd pawb o’r panel yn cydnabod fod ffermio mor wahanol i bob fferm, a bod beth sydd yn gweithio i un fferm, ddim yn angenrheidiol yn mynd i weithio i fferm arall. Eto, trafodaeth bwysig, a oedd yn cydnabod yr angen am gynaliadwyedd, ond mewn ffordd sydd yn gweithio ar gyfer pob fferm yn unigol. Does byth bwynt sydd am gyrraedd lle mae cynaliadwyedd yn cael ei dicio, mae’n broses barhaud, sy’n gwneud newidiadau fel sydd eu hangen ar gyfer lliniaru’r anghenion angenrheidiol.
Yn seminar cenedlaethau’r dyfodol, dyma ble gafwyd trafodaeth ddiddorol am astudiaethau presennol, datblygiadau technegol sydd o fudd yn y diwydiant amaeth, a beth yw’r dyfodol i amaeth. Dyma oedd yn gyfle cyffrous i wrando ar 6 yn trafod eu hastudiaethau. Dwi’n meddwl mai’r prif beth i’w gymryd o’r seminar yma oedd bod pethau yn newid trwy’r amser, bod amaeth yn newid, fod technoleg Newydd yn cael ei ddatblygu sy’n ddefnyddiol o fewn amaeth.
I gloi’r seminarau, cafwyd seminar ar ddyfodol cynhyrchu bwyd yng Nghymru. Yn fy marn i, dyma’r seminar fwy teimladwy ag agorwyd fy llygadau fwyaf. Cafwyd drosolwg a gwybodaeth am lunio polisïau amaethyddol gan Gareth Parry o FUW. Trafodwyd Mr Prys Morgan ei rôl fel ffermwr bîff a defaid, a’i rôl fel cyfarwyddwr caffael i KEPAK, Cyfarwyddwr anweithredol hybu cig cymru. Fe wnaeth hi’n glir fod angen i amaeth yng Nghymru fod yn broffidiol i’r ffermwyr, neu fel arall fydd llai a llai o gynnyrch Cymraeg yn cael ei gynhyrchu. Yna, cafwyd adroddiad teimladwy o fywyd ffermio llaeth gan Aled Rees, ble drafodwyd ei ccc ci fod yn organig am 24 mlynedd, a nawr sut mae’n symud tuag at amaethyddiaeth atgynhyrchiol. soniodd Aled am yr heriau sy’n wynebu’r diwydiant llaeth, megis costau uchel parhaol gyda phris llefrith yn disgyn, ac wrth gwrs twbercwlosis buchol. Dyma oedd yn gyfle i weld y gwirionedd tu ôl i’r pwyntiau a dadleuon sydd wedi cael eu gwneud yn ddiweddar. Ac fel dywedodd Mr Prys Morgan, tydi ffermwyr ddim yn erbyn newid, ond rhaid bod y cymorth yno i wneud hyn mewn ffordd deg.
Unwaith eto, dyma esiampl o sut mae’r gymuned amaeth yma yng Nghymru yn dod at ei gilydd i greu rhywbeth mor arbennig.Unwaith eto, llongyfarchiadau mawr i bawb a fu’n rhan o’r diwrnod. Heb ei ail, wedi bod yn ddiwrnod a hanner!